Buddsoddi mewn Amddiffyn
Beth mae buddsoddiad y llywodraeth mewn amddiffyn yn ei olygu i chi a’ch ardal?

Yn y DU, mae’r diwydiant amddiffyn yn cefnogi:
460,000 o swyddi yn y DU – un o bob 60 swydd
270,000 o swyddi yn niwydiant ehangach y DU
24,000 o brentisiaethau ledled y wlad
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Rydym yn buddsoddi rhagor o arian mewn ardaloedd a rhanbarthau amddiffyn allweddol ledled y DU i greu swyddi da, datrys prinder sgiliau a gwneud y DU yn fwy diogel gartref ac yn gryfach dramor.
Mae hyn yn golygu gweithio gyda chynghorau lleol, llywodraethau datganoledig a chwmnïau preifat i sicrhau bod gwariant ar amddiffyn o fudd i gymunedau ym mhob man.
Nid mater o gadw’r DU yn ddiogel yn unig yw hyn – mae’n ymwneud â chreu swyddi, rhoi hwb i economïau lleol, ac adeiladu dyfodol mwy diogel i chi a’ch teulu.
Diogelwch gwladol yw prif ddyletswydd y llywodraeth.
Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
- Cynyddu gwariant amddiffyn i 2.5% o’r GDP o fis Ebrill 2027 ymlaen
- Gosod uchelgais i gyrraedd 3% yn y senedd nesaf
- Cryfhau ein lluoedd arfog gyda thechnoleg arloesol o Brydain
- Creu swyddi a chyfleoedd ar draws pob rhan o’r DU