Skip to main content

Cefnogi Busnesau yn y DU

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi cwmnïau amddiffyn yn y DU a sicrhau mai Prydain yw’r lle gorau yn y byd i dyfu busnes amddiffyn. Bydd y strategaeth hon yn helpu i gryfhau ein diogelwch cenedlaethol ar yr un pryd â sbarduno twf economaidd ledled y wlad.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Ei gwneud yn haws gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Rydym yn gwella sut gall cwmnïau’r DU weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn drwy wneud y canlynol:

  • Lleihau costau trydan – o 2027 ymlaen, bydd Cynllun Cystadleurwydd Diwydiannol Prydeinig newydd yn lleihau costau trydan tua £35-40 fesul megawat yr awr tan 2030, gan helpu miloedd o fusnesau i gystadlu’n fwy effeithiol
  • Symleiddio rheoliadau – Rydym yn gweithio i leihau biwrocratiaeth a’i gwneud yn haws i gwmnïau gyflenwi cyfarpar a gwasanaethau i’r Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Gwell cymorth i fusnesau – Erbyn mis Ebrill 2026, bydd gennym becyn cynhwysfawr o fesurau i helpu ein partneriaid diwydiannol i weithio gyda ni’n fwy effeithiol

Cefnogi busnesau bach a chanolig

Mae busnesau bach yn hanfodol i’n sector amddiffyn. Rydym yn eu helpu yn y ffyrdd canlynol:

  • Y Swyddfa Amddiffyn ar gyfer Twf Busnesau Bach -– Bydd y swyddfa newydd hon yn helpu cwmnïau amddiffyn bach i gael gafael ar gyllid gan y llywodraeth a buddsoddiad preifat
  • Gosod targedau gwario – Rydym yn gosod targedau clir ar gyfer faint mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wario gyda busnesau bach a chanolig
  • Cynllun Gweithredu beiddgar ar gyfer BBaChau – Bydd hyn yn cynnwys llwybr masnachol newydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer busnesau llai

Buddsoddi mewn gweithgynhyrchu yn y DU

Rydym yn datblygu ein gallu gweithgynhyrchu domestig ar gyfer y maes amddiffyn:

  • £6 biliwn wedi’i fuddsoddi mewn arfau – gan gynnwys adeiladu o leiaf chwe ffatri newydd ar gyfer cynhyrchu deunyddiau egnïeg ac arfau
  • Diogelu sgiliau hanfodol – Rydym wedi diogelu cyfleusterau fel y ffowndri lled-ddargludyddion yn Swydd Durham, yr unig gyfleuster diogel yn y DU sy’n gallu gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion arbenigol at ddefnydd milwrol
  • Twf rhanbarthol – Mae buddsoddiadau mawr fel y Cynllun ar gyfer Barrow yn adfywio cymunedau amddiffyn gyda dros £200 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth

Y rheswm mae hyn yn bwysig

Mae diwydiant amddiffyn cryf yn y DU yn golygu:

  • Gwell diogelwch
  • Twf economaidd
  • Cynghreiriau cryfach