Skip to main content

Gwneud amddiffyn yn beiriant ar gyfer twf ar draws Gorllewin Lloegr

Cefnogir 1 swydd o bob 60 yn y DU drwy’r diwydiant amddiffyn. P’un ai ydych chi’n chwilio am eich swydd gyntaf, yn newid eich gyrfa neu’n cynllunio ar gyfer eich dyfodol, mae buddsoddi mewn amddiffyn yn creu cyfleoedd i bobl fel chi.

Mae llywodraeth y DU wedi cynyddu gwariant ar amddiffyn i gefnogi swyddi, sgiliau a thwf yn y wlad.

Nid mater o amddiffyn y wlad yn unig yw amddiffyn, mae’n ymwneud ag adeiladu ei dyfodol. Mae mwy o fuddsoddiad yn creu llwybrau gyrfa newydd mewn ardaloedd lleol, gan sbarduno twf mewn trefi fel eich un chi.

96,600 o Swyddi Cyfanswm y Swyddi Uniongyrchol, Swyddi Sifilaidd a Swyddi Milwrol a Gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar draws De-orllewin Lloegr, 2023/24

Partneriaethau ag arweinwyr rhanbarthol

Bydd y llywodraeth yn gweithio gydag arweinwyr rhanbarthol a lleol i gefnogi twf y diwydiant amddiffyn ledled y DU. Yn Lloegr, bydd Awdurdodau Strategol â Meiri yn datblygu Cynlluniau Twf Lleol 10 mlynedd yn dangos sut byddant yn defnyddio eu pwerau a’u cyllid i hybu twf rhanbarthol. Bydd trafodaethau rheolaidd rhwng y llywodraeth a’r awdurdodau hyn yn sicrhau bod cynlluniau lleol yn cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol i helpu’r sector amddiffyn i lwyddo’n lleol.

Mae’r bartneriaeth hon yn cyfuno strategaeth genedlaethol ag arbenigedd lleol i greu’r amodau gorau posibl i’r diwydiant amddiffyn ffynnu ledled y DU.