Skip to main content

Gwneud amddiffyn yn beiriant ar gyfer twf yn Ne Cymru

Gweledigaeth: Mae rhwystrau i dwf yn cael eu nodi a’u goresgyn, ac mae buddsoddiad cyhoeddus a phreifat yn gwyro tuag at is-sectorau uwch-dechnoleg, twf uchel.

7,100 o Swyddi Cyfanswm y Swyddi Uniongyrchol, Swyddi Sifilaidd a Swyddi Milwrol a Gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ledled Cymru, 2023/24

Partneriaethau ag arweinwyr datganoledig

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i hybu twf mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn. Bydd yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau a manteisio ar gyfleoedd mewn meysydd amddiffyn allweddol a sectorau busnes addawol.

Mae’r bartneriaeth hon yn parchu’r rheolau datganoli presennol – mae polisi amddiffyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i lywodraeth genedlaethol, tra bod meysydd cysylltiedig fel hyfforddiant sgiliau yn parhau i fod o dan reolaeth leol.

Drwy gyfuno strategaeth genedlaethol ag arbenigedd lleol, nod y dull hwn yw creu’r amodau gorau posibl i’r diwydiant amddiffyn lwyddo ledled y DU.