Mae llywodraeth y DU wedi cynyddu gwariant ar amddiffyn i gefnogi swyddi, sgiliau a thwf yn y wlad.
Nid mater o amddiffyn y wlad yn unig yw amddiffyn, mae’n ymwneud ag adeiladu ei dyfodol. Mae mwy o fuddsoddiad yn creu llwybrau gyrfa newydd mewn ardaloedd lleol, gan sbarduno twf mewn trefi fel eich un chi.
17,800 o Swyddi Cyfanswm y Swyddi Uniongyrchol, Swyddi Sifilaidd a Swyddi Milwrol a Gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar draws Gorllewin Canolbarth Lloegr, 2023/24
17,600 o Swyddi Cyfanswm y Swyddi Uniongyrchol, Swyddi Sifilaidd a Swyddi Milwrol a Gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar draws Dwyrain Canolbarth Lloegr, 2023/24
Partneriaethau ag arweinwyr rhanbarthol
Bydd y llywodraeth yn gweithio gydag arweinwyr rhanbarthol a lleol i gefnogi twf y diwydiant amddiffyn ledled y DU. Yn Lloegr, bydd Awdurdodau Strategol â Meiri yn datblygu Cynlluniau Twf Lleol 10 mlynedd yn dangos sut byddant yn defnyddio eu pwerau a’u cyllid i hybu twf rhanbarthol. Bydd trafodaethau rheolaidd rhwng y llywodraeth a’r awdurdodau hyn yn sicrhau bod cynlluniau lleol yn cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol i helpu’r sector amddiffyn i lwyddo’n lleol.
Mae’r bartneriaeth hon yn cyfuno strategaeth genedlaethol ag arbenigedd lleol i greu’r amodau gorau posibl i’r diwydiant amddiffyn ffynnu ledled y DU.
Canolfannau gweithgynhyrchu allweddol yn y maes Amddiffyn, fel Rolls-Royce Raynesway ac RBSL Telford, wedi’u galluogi gan asedau o’r radd flaenaf gan gynnwys MIRA Technology Park ac MTC Coventry.
Cryfderau ym meysydd data, deallusrwydd artiffisial, cyfathrebu a seiberddiogelwch sy’n cael eu sbarduno gan glwstwr ISTAR Lincoln a Cyber Valley.