Mae llywodraeth y DU wedi cynyddu gwariant ar amddiffyn i gefnogi swyddi, sgiliau a thwf yn y wlad.
Nid mater o amddiffyn y wlad yn unig yw amddiffyn, mae’n ymwneud ag adeiladu ei dyfodol. Mae mwy o fuddsoddiad yn creu llwybrau gyrfa newydd mewn ardaloedd lleol, gan sbarduno twf mewn trefi fel eich un chi.
Stori Tomi
Mae Tomi yn beiriannydd meddalwedd yng nghwmni Thales. Cafodd ei fagu yn Bathgate ac ymunodd â’r cwmni fel prentis yn ystod ei flwyddyn olaf yn yr ysgol.

Yn ei rôl, mae’n cyfuno gwaith technegol ymarferol â datblygu meddalwedd. Mae Tomi yn frwd dros effaith y diwydiant amddiffyn ar ei gymuned leol, yn enwedig gallu’r diwydiant i greu swyddi a chyfleoedd i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.
Drwy ei waith yn Thales, mae’n teimlo cysylltiad dwfn â’r ardal leol ac mae’n ymfalchïo mewn bod yn rhan o ddiwydiant sy’n rhoi cyfle iddo ddatblygu’n broffesiynol wrth gyfrannu at y gymuned o’i gwmpas.
“Cefais fy magu yn Bathgate. Clywais am y profiad hwn yn ystod fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol. Felly fe wnes i gais…,” meddai Tomi.
“Er fy mod i’n beiriannydd meddalwedd, rwy’n dal i gael gwneud cryn dipyn o waith ymarferol. Rwy’n cael gweithio gyda thechnoleg, nid dim ond y feddalwedd a’r cod y tu ôl i’r sgrin.
“Rwy’n eithriadol o falch ohonof fy hun. Rwy’n teimlo mai dyma un o’r cyfleoedd gorau y byddaf yn ei gael byth yn fy ngyrfa ac yn fy mywyd. Mae’n golygu fy mod yn parhau i wella’n yn ogystal â chael effaith go iawn yn y byd ar yr un pryd.
Mae mwy o arian ym maes amddiffyn yn golygu y gall cwmnïau fel Thales barhau i greu swyddi newydd, a pharhau i ddenu prentisiaid fel fi.
“Ac mae hefyd yn golygu bod y swydd yn rhoi cyfle i ni barhau i roi’n ôl i’r gymuned…mae cynnig y cyfleoedd hyn i bobl fel fi wedi bod yn un o’r pethau gorau erioed.”
26,100 o Swyddi Cyfanswm y Swyddi Uniongyrchol, Swyddi Sifilaidd a Swyddi Milwrol a Gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn yr Alban, 2023/24
Partneriaethau ag arweinwyr datganoledig
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i hybu twf mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn. Bydd yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau a manteisio ar gyfleoedd mewn meysydd amddiffyn allweddol a sectorau busnes addawol.
Mae’r bartneriaeth hon yn parchu’r rheolau datganoli presennol – mae polisi amddiffyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i lywodraeth genedlaethol, tra bod meysydd cysylltiedig fel hyfforddiant sgiliau yn parhau i fod o dan reolaeth leol.
Drwy gyfuno strategaeth genedlaethol ag arbenigedd lleol, nod y dull hwn yw creu’r amodau gorau posibl i’r diwydiant amddiffyn lwyddo ledled y DU.
Clystyrau Diwydiant Gororol â Photensial ar gyfer Tŵf Uchel:
Adeilad llongau byd-enwog, gan gynnwys ffrigadau Math 26 a 31.
Arweinydd cenedlaethol ym maes cynhyrchu a lansio lloerennau a’u defnydd ymhellach i lawr y gadwyn.
Un o glystyrau technoleg Cwantwm, Ffotoneg a Lled-ddargludyddion mwyaf y DU, wedi’i angori gan asedau allweddol sy’n cynnwys NMIS, Fraunhofer CAP, a’r National Robotarium.