Skip to main content

Gwneud amddiffyn yn beiriant ar gyfer twf yng Ngogledd Iwerddon

Cefnogir 1 swydd o bob 60 yn y DU drwy’r diwydiant amddiffyn. P’un ai ydych chi’n chwilio am eich swydd gyntaf, yn newid eich gyrfa neu’n cynllunio ar gyfer eich dyfodol, mae buddsoddi mewn amddiffyn yn creu cyfleoedd i bobl fel chi.

Mae llywodraeth y DU wedi cynyddu gwariant ar amddiffyn i gefnogi swyddi, sgiliau a thwf ar draws y wlad.

Nid mater o amddiffyn y wlad yn unig yw amddiffyn, mae’n ymwneud ag adeiladu ei dyfodol. Mae mwy o fuddsoddiad yn creu llwybrau gyrfa newydd mewn ardaloedd lleol, gan sbarduno twf mewn trefi fel eich un chi.

Stori Catherine

Peiriannydd yng nghwmni CCP Gransden Advanced Composites yw Catherine. Cafodd ei magu yn Saintfield, sy’n dref fach y tu allan i Belfast.

Mae Catherine wedi gweld effaith gwariant yn y maes amddiffyn yn uniongyrchol:

Mae llawer o fuddsoddiad wedi bod… mae llawer o dai wedi cael eu hadeiladu, mwy o gyfleusterau, canolfannau cymunedol

Mae hi’n ymwneud â phrosiectau cyffrous, gan gynnwys gweithgynhyrchu rhannau o beiriannau ar gyfer system amddiffyn ‘arrow’ gan Rolls Royce. Mae hi’n pwysleisio’r manteision personol a chymunedol, gan dynnu sylw at y balchder mae hi’n teimlo o weld ei gwaith yn dod yn fyw a’r amser rhydd ychwanegol mae hi’n ei gael o weithio’n agos at adref, diolch i’r cyfleoedd lleol sy’n cael eu creu gan y gwariant hwn.

Eglura Catherine:

Mae gweithio’n agos at fy nghartref yn bwysig iawn i mi… Mae’r amser teithio yn llai o lawer na’r hyn y byddai mewn dinas mawr. Mae’n rhoi cymaint mwy o amser rhydd i chi yn ystod y dydd.

“Mae bod yn beiriannydd yn ddiddorol iawn oherwydd mae’n newid bob dydd. Un diwrnod, gallwn fod ar lawr y siop yn gyfrifol am ateb y ffôn. Y diwrnod wedyn…rwyf yn mesur darnau.

Fy hoff beth am y swydd yw gweld eich gwaith ar bapur yn dod yn fyw, a’i weld yn y byd go iawn. Rydw i’n teimlo’n falch.”

3,300 o Swyddi Cyfanswm y Swyddi Uniongyrchol, Swyddi Sifilaidd a Swyddi Milwrol a Gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Ngogledd Iwerddon, 2023/24

Partneriaethau ag arweinwyr datganoledig

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Gogledd Iwerddon i hybu twf mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn. Bydd yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau a manteisio ar gyfleoedd mewn meysydd amddiffyn allweddol a sectorau busnes addawol.

Mae’r bartneriaeth hon yn parchu’r rheolau datganoli presennol – mae polisi amddiffyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i lywodraeth genedlaethol, tra bod meysydd cysylltiedig fel hyfforddiant sgiliau yn parhau i fod o dan reolaeth leol.

Drwy gyfuno strategaeth genedlaethol ag arbenigedd lleol, nod y dull hwn yw creu’r amodau gorau posibl i’r diwydiant amddiffyn lwyddo ledled y DU.

Clystyrau Diwydiant Gororol â Photensial ar gyfer Tŵf Uchel: