Mae llywodraeth y DU wedi cynyddu gwariant ar amddiffyn i gefnogi swyddi, sgiliau a thwf yn y wlad.
Nid mater o amddiffyn y wlad yn unig yw amddiffyn, mae’n ymwneud ag adeiladu ei dyfodol. Mae mwy o fuddsoddiad yn creu llwybrau gyrfa newydd mewn ardaloedd lleol, gan sbarduno twf mewn trefi fel eich un chi.
23,200 o Swyddi Cyfanswm y Swyddi Uniongyrchol, Swyddi Sifilaidd a Swyddi Milwrol a Gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar draws Gogledd-orllewin Lloegr, 2023/24
Partneriaethau ag arweinwyr rhanbarthol
Bydd y llywodraeth yn gweithio gydag arweinwyr rhanbarthol a lleol i gefnogi twf y diwydiant amddiffyn ledled y DU. Yn Lloegr, bydd Awdurdodau Strategol â Meiri yn datblygu Cynlluniau Twf Lleol 10 mlynedd yn dangos sut byddant yn defnyddio eu pwerau a’u cyllid i hybu twf rhanbarthol. Bydd trafodaethau rheolaidd rhwng y llywodraeth a’r awdurdodau hyn yn sicrhau bod cynlluniau lleol yn cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol i helpu’r sector amddiffyn i lwyddo’n lleol.
Mae’r bartneriaeth hon yn cyfuno strategaeth genedlaethol ag arbenigedd lleol i greu’r amodau gorau posibl i’r diwydiant amddiffyn ffynnu ledled y DU.
Rhanbarth allweddol ar gyfer gweithgynhyrchu awyrennau milwrol gydag adenydd sefydlog, adeiladu llongau a gwaith cynnal a chadw gan Cammell Laird a chynhyrchu a chefnogi systemau arfau cymhleth.
Gweithgynhyrchu o gysyniad i ganlyniad, cryfderau digidol a seiber gyda galluoedd profi llwyfannau a systemau llawn unigryw.