Swyddi a Sgiliau
Pa swyddi sydd ar gael a sut mae gwneud cais?
P’un ai a ydych chi’n chwilio am eich swydd gyntaf, yn newid gyrfa, neu’n cynllunio ar gyfer eich dyfodol, mae’r buddsoddiad hwn mewn amddiffyn yn creu cyfleoedd i bobl fel chi.

Gall gweithio yn y diwydiant amddiffyn olygu swyddi medrus sy’n talu’n dda ym meysydd meddalwedd, eiddo deallusol ac offer, yn ogystal â swyddi yn y fyddin.
Mae buddsoddi mewn amddiffyn yn creu cyfleoedd ar draws amrywiaeth enfawr o arbenigeddau:
Deallusrwydd artiffisial a systemau awtonomaidd
Rolau mewn roboteg, profi caledwedd, peirianneg meddalwedd a chodio

Seiberddiogelwch a thechnoleg cwantwm
Swyddi ym maes gwyddorau data, rheoli risg a dadansoddi bygythiadau

Gweithgynhyrchu uwch ac adeiladu llongau
Gweithio fel mecanig, technegydd neu oruchwyliwr cynhyrchu

Systemau ymladd awyr a thaflegrau
Rolau fel hyfforddwyr hedfan, arbenigwyr yn y gadwyn gyflenwi a thechnegwyr efelychu

Llongau tanfor niwclear a thechnoleg y gofod
Swyddi i weldwyr, gosodwyr pibellau a ffisegwyr

Adeiladu dyfodol Prydain, un prentis ar y tro
Mae’r Colegau Rhagoriaeth Dechnegol Amddiffyn yn cynrychioli mwy na hyfforddiant sgiliau – dyma fuddsoddiad Prydain mewn talent, diogelwch a ffyniant economaidd cynhenid. Wrth i wariant ar amddiffyn godi i 2.6% o GDP, rydym yn sicrhau bod talent Prydain yn sbarduno arloesedd ym Mhrydain drwy brentisiaethau a llwybrau eraill.
- Sefydlu pum Coleg Rhagoriaeth Dechnegol ym maes Amddiffyn.
- Rhaglenni STEM, cyrsiau byr, a Phasbort Sgiliau
- Cyrsiau byr wedi’u targedu
- Lansio ymgyrch Amddiffyn Cyrchfan newydd
Gyda phrentisiaethau’n amrywio o sgiliau technegol Lefel 2 i brentisiaethau gradd Lefel 6 uwch, mae pob prentis – boed yn hyfforddi fel peirianwyr llongau tanfor yn yr Alban, arbenigwyr rhyfel seiber, neu dechnegwyr gweithgynhyrchu uwch – yn ennill cyflog wrth ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.